kowydd morfydd
1 Twf y dyn tyfiad enid
2 om tefyll aur am twf llid
3 tal moeledd talm o alaw
4 ternassaidd lariaidd law
5 dyn wyl dda i dyniolaeth
6 ai modd gwell no neb ai maeth
7 ddwylo mwnwgl dan ddeiloed
8 yddaeth {bardd} anghenfaeth hoed
9 peth nid oedd gynefin
10 a chael ymafael ai min
11 gwanfardd gweddeidddw gwinfaeth
12 oeddwn gynt iddi yn gaeth
13 amav bwyll i mae bellach
14 dawn fv arroi duw yn fach
15 rrvw gwlwm serch rry gelwyf
16 rrom ond gwn rrwymedig wyf
17 manodliw ddyn mvnvdloyw
18 morfvdd hvan ddevrvdd hoyw
19 am daliawdd be hawdd bv hy
20 daldal ynghongyl deildy
21 daliad kwlwm o gariad koeth
22 dav arddwrn dyn diweirddoeth
23 da fv hirwen dwf hwyrwar
24 dal im kylch dwylo am kar
25 dygyn oedd ym om helm hwyl
26 dewr goler serch dirgelwyl
27 llathr ifor fardd bvm harddlvn
28 llai no baich oedd befrfraich bvn
29 goris klvsd gorevwas klod
30 [830] gorthorch ni wnaf i gwrthod
31 lliwr kalch vnlliw eira kylchyn
32 llyna rodd da ar wddw dyn
33 a roes bvn ag vn ai gwyr
34 am fwnwgl bardd em feinwyr
35 rrydwyll nim rrwymod hvdawl
36 hoedyl ir fvn hvdawlair fawl
37 a geidw ym drefn erddrym draidd
38 fy mwythe yn famhwythaidd
39 diofn di lwfr dwf dofn dal
40 a dv wyf a diofal
41 a devfraich fy nyn difrad
42 im kylchlyn meddlyn ai mad
43 nid serch eirch i neb fy amherchi
44 delw havl rrwng i dwylo hi
45 gwedi kael y mafael mwy
46 wawr evraid wi or arwy
47 teg oedd weled mewn rredyn
48 tegav dwf yn tagv dyn
49 meddw oeddym mav ddioddef
50 meddwaint rriain groywgain gref
51 mynwyd fy myd rrag fy mar
52 mwyn ym i gwnaeth breichie meinwar
53 mynwes gylchyniad mad maith
54 mynwair fuant ym vnwaith
dauidd ap glm ai kant